Prifysgol Morgannwg

Ysgol y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd

Mae Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd sydd newydd ei sefydlu, yn dod â’r disgyblaethau creadigol o fewn Prifysgol Morgannwg at ei gilydd, gan gynnwys Celf a Dylunio , Y Cyfryngau a Chyfathrebu, a Drama a Cherddoriaeth.

Mae’r grŵp amrywiol, amlddisgyblaethol hwn yn cefnogi amgylchedd diwylliannol ac ysgolheigaidd cyfoethog, ac mae’n darparu rhaglenni gradd israddedig, ôl-raddedig ac ymchwil arbenigol a hybrid. Mae gan y gyfadran nifer o Athrawon gwadd o safon fyd-eang o amrywiaeth o ddisgyblaethau. Bydd y bwrdd ymgynghorol hwn, dan arweiniad y dylunydd diwydiannol, yr Athro Nick Butler OBE, yn cynnwys yr actor Daniel Evans, y cyfansoddwr Karl Jenkins, yr animeiddiwr Robin Lyons, y cyfarwyddwr ffilmiau Marc Evans a’r cyfarwyddwr theatr Terry Hands. Gellir gweld eu proffiliau yma.
Mae’r Gyfadran newydd yn gweithredu i feithrin datblygiad creadigol, technolegol, entrepreneuraidd a deallusol y myfyrwyr a’r staff.

Mae ein campws newydd, yr ATRiuM, wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd ac mae’n cynnig cartref newydd i’r Gyfadran. Mae’r adeilad hwn sydd wedi’i gynllunio’n arbennig yn cynnwys technoleg sydd ar flaen y gad a stiwdios safon ddiwydiant.
Yn ogystal â’r lleoedd a’r cyfleusterau addysgu a dysgu o’r radd flaenaf, mae unigolion unfryd o ystod eang o feysydd pwnc yn cydweithio mewn amgylchedd sy’n addas ar gyfer rhannu arbenigedd ar draws y disgyblaethau.
* Bydd y cyrsiau BA (Anrh) Ymarfer Celf a’r Dystysgrif Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn aros ar Gampws Trefforest.

Create 08

The Music Academy

Prifysgol Morgannwg

Pontypridd, CF37 1DL, DU.

© Prifysgol Morgannwg